Ffurfiant proffesiynol athrawon yng Nghymru yng nghyd-destun pandemig COVID-19
January 19, 2022
Teitl y digwyddiad: Ffurfiant proffesiynol athrawon yng Nghymru yng nghyd-destun pandemig COVID-19 a’i effaith ar ysgolion: Ffocws asesiad
Digwyddiad IPDA Cymru a Phartneriaeth Caerdydd
- Dydd Llun 7fed Chwefror 2022 am 4-5.30yp
- Ddydd Iau 10fed Chwefror 2022 am 8-9.30yh
- Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
- Yn rhad ac am ddim, agored i bawb
- Mae archebu lle’n hanfodol, cofrestrwch ar gyfer un sesiwn os gwelwch yn dda ac anfonir dolen cyfarfod cyn y digwyddiad. https://www.eventbrite.co.uk/e/professional-formation-of-teachers-in-wales-in-the-context-of-the-covid-19-tickets-250479901127
Mae’r digwyddiad hwn yn cyflwyno safbwyntiau o astudiaeth ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n archwilio effaith pandemig COVID-19 ar ddarpariaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yn y dyfodol: â ffocws arbennig ar asesu. Mae’n archwilio profiadau a safbwyntiau ystod o randdeiliaid mewn perthynas â ffurfiant proffesiynol cynnar athrawon a sut mae’r sgyrsiau hyn wedi’u hail-fframio o ystyried argyfwng Covid-19 yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn mapio canfyddiadau’r astudiaeth, yr anghydraddoldebau a ddatgelwyd ganddi a’r goblygiadau ar gyfer pob addysgwr athrawon a phartneriaethau addysg gychwynnol i athrawon i’r dyfodol.
Papur un: Asesu ac addysg gychwynnol i athrawon mewn amser o newid: dysgu ac addasu
Papur dau: Archwilio arlliwiau anghydraddoldebau profiadau dysgwyr ac athrawon dan hyfforddiant o ganlyniad i bandemig COVID-10
Papur tri: Meithrin partneriaeth: cydnabod a deall safbwyntiau gwahanol mewn model ymarfer clinigol o AGA
Gyda’i gilydd, mae’r symposiwm yn egluro’r cymhlethdodau a’r dysgu a brofir a’r ystyriaethau canlyniadol i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer ffurfiant athrawon newydd a phob un o’r rheiny sy’n cefnogi eu datblygiad.