Ffurfiant proffesiynol athrawon yng Nghymru yng nghyd-destun pandemig COVID-19

Teitl y digwyddiad: Ffurfiant proffesiynol athrawon yng Nghymru yng nghyd-destun pandemig COVID-19 a’i effaith ar ysgolion: Ffocws asesiad 

Digwyddiad IPDA Cymru a Phartneriaeth Caerdydd

Mae’r digwyddiad hwn yn cyflwyno safbwyntiau o astudiaeth ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n archwilio effaith pandemig COVID-19 ar ddarpariaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yn y dyfodol: â ffocws arbennig ar asesu. Mae’n archwilio profiadau a safbwyntiau ystod o randdeiliaid mewn perthynas â ffurfiant proffesiynol cynnar athrawon a sut mae’r sgyrsiau hyn wedi’u hail-fframio o ystyried argyfwng Covid-19 yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn mapio canfyddiadau’r astudiaeth, yr anghydraddoldebau a ddatgelwyd ganddi a’r goblygiadau ar gyfer pob addysgwr athrawon a phartneriaethau addysg gychwynnol i athrawon i’r dyfodol. 

Papur un: Asesu ac addysg gychwynnol i athrawon mewn amser o newid: dysgu ac addasu

Papur dau: Archwilio arlliwiau anghydraddoldebau profiadau dysgwyr ac athrawon dan hyfforddiant o ganlyniad i bandemig COVID-10

Papur tri: Meithrin partneriaeth: cydnabod a deall safbwyntiau gwahanol mewn model ymarfer clinigol o AGA

Gyda’i gilydd, mae’r symposiwm yn egluro’r cymhlethdodau a’r dysgu a brofir a’r ystyriaethau canlyniadol i’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer ffurfiant athrawon newydd a phob un o’r rheiny sy’n cefnogi eu datblygiad.