Gweminar – ‘Addysg Ar-lein yn ystod Amserau Newidiol’ gyda Neil Mosley

Laptop

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ddydd Iau 25 Mehefin 2020.

Dadlwythwch y cyflwyniad.

Mae COVID-19 wedi achosi symudiadau sydyn ymhob cyd-destun addysg i’r hyn a alwyd yn ‘dysgu o bell ar frys’. Gyda disgwyl bydd mesurau diogelwch yn parhau, bydd disgwyliadau cynyddol ar gyfer dysgu ar-lein a chyfunol yn ystod y flwyddyn academaidd / ysgol sydd o flaen ni yn anochel.

Yn ffodus, nid rhywbeth newydd yw dysgu ar-lein a chyfunol ac mae yna ehangder o dystiolaeth ac ymarfer da ar gael i dynnu ohono.

Yn y sesiwn yma, byddwn yn chwilota rhai o egwyddorion dysgu ac addysgu ar-lein a all fod o gymorth i addysgwyr gyda’r newid hyn mewn ymarfer. Byddwn yn ystyried ffyrdd ac enghreifftiau gwahanol o weithredu egwyddorion a hefyd yn ystyried profiad y dysgwr wrth ddysgu ar-lein. Ceir digon o amser hefyd ar gyfer cwestiynau ac atebion.