Gweminar: Addysgeg gynhwysol ar gyfer addysgu a dysgu hyblyg a chymysg

Cynhaliodd IPDA Cymru y weminar hon ar 8fed a 9fed Chwefror 2021.

‘Addysgeg gynhwysol ar gyfer addysgu a dysgu hyblyg a chymysg … goblygiadau ar gyfer dysgu proffesiynol ’ gyda Ceri Morris

Wrth i ni edrych ar newid ein harferion i gefnogi dysgu yn yr hinsawdd bresennol, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ystyried cydraddoldeb a chynhwysiad.
Mae gan y newidiadau i ymarfer y potensial i greu rhwystrau newydd ac ychwanegol i ddysgu, gan waethygu anghydraddoldeb.

Beth yw’r oblygiadau ar gyfer dysgu ac ymarfer proffesiynol? Yn y sesiwn yma byddwn yn cymryd golwg ar weithredu egwyddorion addysgeg gynhwysol mewn perthynas â chynllunio hyblyg ar gyfer dysgu. Byddwn yn ystyried sut mae adnabod a chefnogi dysgwyr bregus a chreu cyfleoedd dysgu hygyrch, cynhwysol sydd yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr.

Ceir digon o amser hefyd ar gyfer cwestiynau ac atebion.