Gweminar ar y safonau arweinyddiaeth

Webinar

Rydyn ni i gyd yn Arweinwyr… sut mae’r Safonau Arweinyddiaeth yn cefnogi ac yn galluogi hyn?

Digwyddiad partneriaeth rhwng IPDA Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Dyddiadau ac amseroedd:

  • 12 Hydref 4-5pm
  • 14 Hydref 8-9pm

Lleoliad: Ar-lein

Archebu: Cofrestrwch gyda Eventbrite

Yng Nghymru, mae arweinyddiaeth yn rhan greiddiol o holl waith athrawon ac arweinwyr ysgolion. Mae’r digwyddiad partneriaeth yma rhwng IPDA Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn archwilio sut mae’r Safonau Arweinyddiaeth yn cefnogi ac yn galluogi hyn, yr hyn y maent yn ei olygu mewn cyd-destunau amrywiol a sut y cânt eu deddfu yn ymarferol. Mae panel o gydweithwyr sydd ag ystod o brofiadau arweinyddiaeth, o amrywiaeth o leoliadau ysgol ledled Cymru yn rhannu eu mewnwelediadau, eu profiadau a’u heriau.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer un o’r digwyddiadau rhyngweithiol hyn i archwilio a rhannu eich profiadau arweinyddiaeth a’r hyn y mae’r Safonau Arweinyddiaeth yn ei olygu i chi yn eich rôl ysgol.

Am ddim, ar agor i bawb.

Rhaid cadw lle, cofrestrwch ar gyfer un sesiwn ac anfonir y ddolen cyn y digwyddiad.