Myfyrio, cynllunio a chydweithio: popeth ynglŷn â chynadleddau IPDA International

Cynhaliodd IPDA Cymru y weminar hon ar 10 a 23 Mehefin 2021.

Anelir y digwyddiad yma at bawb a all fod eisiau rhannu eu hymarfer, ymholiad ac ymchwil gyda chynulleidfa hynod o gyfeillgar. Mae cynadleddau IPDA International yn ymwnued â dysgu gyda’n gilydd a chefnogi ein gilydd … mewn perthynas â dysgu ac ymarfer proffesiynol.

Yn y ddau ddigwyddiad yma (mae’r ddau’r un peth), byddwch yn clywed gan ystod o gydweithwyr a rannodd eu gwaith yng nghynhadledd llynedd. Bydd y sesiwn hefyd yn anelu at helpu’r sawl sy’n cymryd rhan i feddwl am sut mae rhoi darn haniaethol at ei gilydd ar gyfer ‘sesiwn sbotolau ymarfer’, ‘poster’ neu ‘bapur’ ac yn eich cyfeirio at le gallwch gymorth cyn y dyddiad cau ar Orffennaf 31.

Ceir digon o amser hefyd ar gyfer cwestiynau ac atebion.