Ymgysylltu â dysgwyr ar-lein? … cyfle i sgwrsio am ymarfer a phroblemau

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar 3 a 4 Rhagfyr 2020.

Mae pob un ohonom yn dymuno cael dysgwyr sydd yn ymgysylltiedig – sydd yn cyfrannu, yn rhannu yn ystod trafodaeth, yn gofyn cwestiynau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda brwdfrydedd a bwriad. Yn aml, ceir nifer o ffactorau a rhwystrau wrth feithrin amgylchedd fel hyn. Egwyddorion ac ymarferion perthynol i: 

  • cyfathrebu effeithiol
  • gosod disgwyliadau clir 
  • modelu
  • adborth
  • creu cymuned ddysgu 
  • creu amgylchedd cefnogol 
  • cymhelliad 

Mae rhoi’r cyd-destunau penodol hyn ar waith yn haws dweud na gwneud, yn enwedig os yw’r cyd-destun yn ddeinamig ac anghyfarwydd, fel addysgu ar-lein. 

Yn y weminar yma, rydym yn eich gwahodd chi i anfon eich cwestiynau atom o flaen llaw ac iddyn nhw roi’r ysgogiad ar gyfer ein trafodaeth gyda chithau. Gobeithio bydd hyn yn creu amgylchedd cydweithredol i ni allu meddwl yn arloesol ynglŷn â’r heriau a chwilota datrysiadau posib.

Addysgwr yw Emmajane Milton, sydd wedi addysgu yn helaeth ac wedi arwain ymarfer addysgol mewn ysgolion ac Addysg Uwch ac sydd nawr yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol ac yn gadeirydd IPDA Cymru. 

Mae Neil Mosley yn ymgynghorydd dysgu digidol ac yn ddylunydd sydd wedi gweithio gydag addysgwyr i’w helpu i ddatblygu eu hymarfer mewn dysgu ar-lein ac i ddylunio cyrsiau a rhaglenni ar-lein a chyfunol.