Creadigrwydd, Ymarfer a Dysgu Proffesiynol

“Creadigrwydd, Ymarfer a Dysgu Proffesiynol’ gyda Sophie Hadaway a Nia Richards

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar 24 Medi 2020.

Dychymyg, cydweithredu, gallu i addasu, risg a hydwythdedd; anianawdau yr ydym i gyd wedi’u datblygu a’u hymarfer dros y misoedd diwethaf. O ganlyniad, ydyn ni wedi dod yn fwy creadigol? 

Am y 5 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag athrawon ac uwch arweinwyr ledled Cymru ar raglen ddysgu greadigol genedlaethol – yn eu cefnogi nhw, a’u hysgolion, i drawsnewid addysgu a dysgu ac i gychwyn newidiadau sylweddol i’w cwricwla. Yn y sesiwn hon byddwn yn dechrau trwy edrych ar ddiffiniadau o greadigrwydd a’i amlygrwydd cynyddol o fewn systemau addysg. Byddwn yn ystyried gweithio rhyngbroffesiynol a dysgu proffesiynol yn y fan a’r lle. Byddwn hefyd yn rhannu enghreifftiau o ddulliau pedagogaidd creadigol a sut y gall y rhain effeithio ar hyder athrawon ac ymdeimlad o galluedd – gyda’r ddau yn bwysig i’w meithrin ar unrhyw adeg, ond yn enwedig mewn adegau o ansicrwydd a newid. 

Bydd sesiwn holi-ac-ateb tuag at ddiwedd y sesiwn. 

Mae diwygiadau uchelgeisiol yng Nghymru yn galonogol ac yn gofyn am ymateb creadigol, edrychwn ymlaen at rannu a thrafod hyn ymhellach gyda’r cyfranogwyr yn y digwyddiad hwn. 

Negeseuon allweddol: