IPDA Cymru

IPDA CymrU

Cymuned yw IPDA Cymru ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn dysgu a datblygiad proffesiynol ar draws sectorau a disgyblaethau.

Croeso i IPDA Cymru. Os ydych yn ymwneud â datblygiad proffesiynol yng Nghymru a gyda diddordeb i fod yn aelod, cysylltwch gyda ni.

Croeso i IPDA Cymru. Nodau’r gymdeithas ranbarthol hon yw:

  • Ysgogi trafodaeth feirniadol annibynnol ynglŷn â pholisi ac ymarfer mewn perthynas â dysgu proffesiynol yng Nghymru.
  • Cefnogi a hyrwyddo dysgu a datblygiad proffesiynol ymarferwyr addysgol yng Nghymru, ar draws cyd-destunau a sectorau ymarferwyr.
  • Hwyluso a lledaenu ymchwil ac ysgoloriaeth mewn perthynas â datblygu a dysgu proffesiynol.
  • Cael gafael rhyngwladol a chyswllt byd-eang, gan gysylltu ymarferwyr ac addysgwyr ymarferwyr gydag ymrwymiad i ddysg ymarferwyr, ar draws ffiniau, sectorau a phroffesiynau yng Nghymru a thu hwnt.
  • Hwyluso myfyrdod, ymholiad, lledaenu ac effaith mewn perthynas â dysgu proffesiynol.
  • Cyfrannu tuag at sylfaen wybodaeth ar y cyd ar gyfer Cymru ac yn rhyngwladol drwy gyfnodolion PDiE and Practice a thrwy fynychu a chyflwyno mewn cynadleddau blynyddol a rhanbarthol.
  • Bod yn llais anwleidyddol ar gyfer y sawl sydd yn ymwneud ag ymarfer a dysgu proffesiynol.

Anogwn bawb sydd â diddordeb mewn dysgu proffesiynol ar draws Cymru a thu hwnt i gymryd rhan. Gallwch wneud hyn drwy gymryd rhan mewn:

  • Seminarau a gweithdai ar ystod o bynciau.
  • Fforymau a digwyddiadau rhwydweithio.
  • Cefnogi sefydlu partneriaethau a chydweithio ar draws meysydd proffesiynol.
  • ‘Sgyrsiau Trydar’, drwy borthiant IPDA Cymru, gyda chrynodebau a dilyniant ychwanegol a thrafodaeth drwy blog yr IPDA.

I gael gwybod mwy ynglŷn â digwyddiadau arfaethedig, gwiriwch yr adran isod. Ymunwch ag IPDA Cymru er mwyn cael eich ychwanegu i’n rhestr bost, a dilynwch ni ar Twitter.

DIGWYDDIADAU

GWOBR YMCHWIL HOWARD TANNER

Dr Howard Tanner

Dr Howard Tanner

Bu farw ein cydweithiwr o fri a’r Darllenydd mewn Addysg ym Mhrifysgol PCDDS, Dr Howard Tanner, yn annisgwyl yn 2016. Caiff ei golli gan ei deulu, ei gyfeillion, cyn myfyrwyr a chydweithwyr o bob cornel o gymuned y brifysgol ac addysg.

Enillodd Howard ei radd gyntaf gyda’r Brifysgol Agored. Gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg oedd hi. Dyma oedd y gris cyntaf ar ysgol ei lwyddiant academaidd, gan arwain at ei M.Ed gydag Ysgol Addysg Prifysgol Bryste a’i Ddoethuriaeth PhD gyda Phrifysgol Cymru. Fe wnaeth ei waith mewn addysgu ac addysg athrawon wella profiad addysgol a chyfleoedd bywyd nifer o blant. Teimlai’n angerddol amdano.

Sefydlwyd dau grŵp codi arian er cof am Howard er mwyn adlewyrchu ei gysylltiad gyda’r Brifysgol Agored a’i angerdd dros ddysgu: TESSA (Teacher Education in Sub Saharan Africa) gyda TESS- India (Teacher Education and School based support); a’r ail un i gysylltu ei fwynhad o’r môr, yr RNLI.

“Daeth y dathliad o’i fywyd â sawl person a chanddynt gynifer o hoff atgofion llawn chwerthin ynghyd, i rannu golwg Howard ar fyd llawn pethau absẃrd. Fe wnaeth ein cyffwrdd mewn nifer o ffyrdd a, nid y lleiaf ohonynt oedd ei ddefnydd o Facebook i gadw mewn cyswllt ac ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth ym mhob peth.” Sylw a wnaed ar-lein gan gyn myfyriwr.

Hayley Matthew

Gwobrau 2020

  • Gwobr y Meistri: Hayley Matthew (enwebwyd gan Alex Morgan) 

Gwobrau 2019

  • Gwobr y Meistri: Rebecca Chamberlain (enwebwyd gan Jan Huyton) 

Gwobrau 2018

  • Gwobr y Meistri: Kirsty Harris (enwebwyd gan Alex Morgan) 
  • Gwobr PhD: Dr. Helen Lewis (enwebwyd gan Dr Jane Waters)

Gwobrau 2017

  • Gwobr Meistri: Simon Hoskins

Diweddaraf o Twitter